Croeso i CFfI Sir Benfro

Helo! Croeso i wefan CFfI Sir Benfro ble ddewch chi o hyd i bopeth sydd angen i chi wybod am y mudiad ieuenctid orau yn y byd. Os ydych eisoes yn aelod, da iawn, os nad ydych wedi ymaelodi eto, porwch drwy'r tudalennau i weld gymaint sydd gan y mudiad i'w gynnig. Gall unrhyw un rhwng 10-26 ymuno â'r Ffermwyr Ifanc, yn Sir Benfro mae gennym fwy na 600 o aelodau o bob math o gefndiroedd gydag un peth yn gyffredin - Maent wrth eu bodd yn cymdeithasu, dysgu a llwyddo drwy'r CFfI. Efallai ei fod yn anlwcus i rai ond mae 13 yn rhif sy'n gweithio i ni, gan mae dyma'r nifer o glybiau sydd yn y sir, felly ble bynnag y'ch chi mae 'na glwb yn agos atoch. Beth am gael pip drwy dudalennau'r clybiau i weld pryd a ble mae'r clybiau'n cwrdd ac am fanylion cyswllt? Mae ein haelodau yn cymryd rhan mewn llwyth o weithgareddau, cystadlaethau a digwyddiadau megis panto, chwaraeon, dawns y Frenhines, drama, siarad cyhoeddus, dawns y cynhaeaf, canu, celf, crefft, cyfleoedd teithio i bedwar ban byd, dawnsfeydd a dysgu sgiliau traddodiadol gwledig - mae'r rhestr yn ddiddiwedd, ond un peth sy'n siŵr mae gan y mudiad rhywbeth i'w gynnig i bawb. Ewch i'r dudalen newyddion a'r oriel luniau i weld hynt a helynt aelodau'r CFfI. Hefyd, edrychwch ar y calendr blynyddol i weld pa ddigwyddiadau sydd i ddod cyn bo hir. Chi'n siwr o ffeindio rhywbeth chi'n hoffi yn y CFfI felly peidiwch oedi, ymunwch heddi!

Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn neu ymholiad, cysylltwch â Swyddfa'r Sir ar 01437 762639 neu sir.benfro@yfc-wales.org.uk

Newyddion:

Ffeinal Chwaraeon Dan-do

16/08/2010
CFfI Llawhaden yn enill chwaraeon dan-do....

Calendr:

CCB CFfI Templeton

07/09/2010 7:30yh
Neuadd Eglwys Sant Ioan, Templeton....

image from pembrokeshire yfc galleryimage from pembrokeshire yfc galleryimage from pembrokeshire yfc galleryimage from pembrokeshire yfc gallery
© 2008 CFfI Sir Benfro | Cynlluniwyd a Gwesteiwyd gan GloverSure Ltd. valid XHTML 1.1 valid CSS 2.0
drop shadow effect